Damwain beic: enwi dyn fu farw yn Y Mwynglawdd
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddwyd enw dyn gafodd ei ladd mewn damwain beic brynhawn Iau.
Roedd Stan Wasiuk yn 59 oed ac yn byw yng Nghoedpoeth yn ardal Wrecsam.
Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio i'r ddamwain yn Y Mwynglawdd.
Nid oedd unrhyw gerbyd arall yn rhan o'r ddamwain.
Dylai unrhyw dystion ffonio Heddlu'r Gogledd ar y rhif 101, gan roi'r cyfeirnod P105625.