Ymchwiliad i farwolaeth llanc 17 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy llanc 17 oed yn Aberteifi.

"Roedd digwyddiad ar lan ogleddol Afon Teifi ar ochor Parc Teifi Pont y Priordy rhwng 12.30pm a 2pm ddydd Gwener," meddai llefarydd.

Dywedodd yr heddlu eu bod am siarad ag unrhywun oedd yn yr ardal yr adeg honno.

Yn y cyfamser, mae swyddog cyswllt teuluol yn cefnogi perthnasau'r llanc.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.