Mwy o orsafoedd radio digidol ar gael

  • Cyhoeddwyd
DAB radioFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd angen radio digidol DAB ar bobl i fedru gwrando ar eu radio lleol

Bydd tua 450,000 yn rhagor o gartrefi yn gallu gwrando ar radio lleol yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Mae hyn yn digwydd am y bydd trosglwyddydd newydd yn cael ei gysylltu'r haf yma.

Bydd ryw 150,000 o dai yng ngogledd orllewin Cymru yn gallu dewis BBC Radio Cymru a Radio Wales ar eu radio erbyn 2014.

Byddant hefyd yn medru gwrando ar rai gorsafoedd radio masnachol.

I dderbyn y signal bydd angen radio digidol arnynt, yr hyn a elwir yn DAB.

Mae pedair gorsaf radio genedlaethol ar DAB yng Nghymru ar hyn o bryd - Real Radio Wales, Nation Radio, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud mewn cyfarfod gyda darlledwyr yng Nghaerdydd ddydd Mercher.