Preifateiddio'r Post Brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Cebyd Royal MailFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gallai'r Post Brenhinol ddod yn fusnes preifat erbyn yr hydref

Bydd 10% o gyfranddaliadau'r Post Brenhinol yn cael eu rhoi i'r gweithwyr wrth i'r cwmni gael ei breifateiddio.

Yn ôl Llywodraeth San Steffan dyma'r cytundeb mwyaf o'i fath ers 30 mlynedd a'r un mwyaf hael.

Mae disgwyl i'r preifateiddio codi gymaint â £2.5 biliwn.

Bydd rhaid i'r staff gadw'r cyfranddaliadau am dair blynedd cyn y bydd modd iddynt eu gwerthu a phum mlynedd er mwyn eu gwerthu heb dalu treth.

Yn ogystal gall y cyhoedd brynu rhai gyda chynigion manwerthu ond pobl sydd yn gweithio i'r cwmni fydd yn cael y flaenoriaeth.

'Amheus'

Mae aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn gwrthwynebu'r bwriad i breifateiddio'r busnes.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb eu bod yn 'amheus iawn' o'r syniad o rannu cyfranddaliadau a'u bod wedi ysgrifennu at y gweinidog busnes gan rybuddio bod streic yn debygol os na fydd y llywodraeth yn ailystyried.

Mae'r undeb yn cynrychioli tua dau draean o'r 150,000 sy'n gweithio i'r Post Brenhinol.

Dyw'r cynllun ddim yn debygol o synnu rhai yn y diwydiant gan i'r syniad gael ei grybwyll gan y cyn lywodraeth Llafur.

Sicrhaodd y llywodraeth y byddai modd gwerthu'r Post Brenhinol trwy ddeddf yn 2011.

Ond mae'r blaid Lafur yn feirniadol o fwriad y glymblaid rŵan. Mae eu llefarydd busnes, Chuka Umunna AS, yn dweud eu bod yn gwthio i breifateiddio'r cwmni, "yn syml fel bod George Osborne yn medru palu ei hun allan o dwll y mae o wedi creu ei hun."

Parseli

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Post Brenhinol wedi canolbwyntio ar ddosbarthu mwy o barseli a llai o lythyron a hynny am fod mwy o bobl yn siopa ar y wê.

Mae'r newid yma wedi golygu fod y busnes wedi gwneud elw'r llynedd a hynny ar ôl blynyddoedd o golled.

Dyw'r preifateiddio ddim yn effeithio ar y Swyddfa Bost gan fod hwnnw yn gwmni ar wahân gyda bwrdd annibynnol. Dyw'r Swyddfa Bost ei hun ddim ar werth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol