BBC: galw am ymddiswyddiad yr Arglwydd Patten

Arglwydd Patten Image copyright Arall
Image caption Dywedodd yr Arglwydd Patten na chafodd wybod bod rhai taliadau y tu hwnt i delerau cytundebol.

Mae cyn-lywodraethwr BBC Cymru wedi galw am ymddiswyddiad cadeirydd ymddiriedolaeth y gorfforaeth, yr Arglwydd Patten.

Roedd sylwadau Syr Roger Jones wedi i Arglwydd Patten a'r cyfarwyddwr cyffredinol Tony Hall gael eu holi gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan am gyflogau diswyddo o fwy na £25m gafodd eu talu i 150 oedd yn gadael y BBC.

Dywedodd yr Arglwydd Patten na chafodd wybod bod rhai taliadau y tu hwnt i delerau cytundebol.

Yn ôl Syr Roger, fe ddylai'r cadeirydd fod yn ymwybodol o daliadau o'r fath.

Peryglu

Ynghynt yn y mis beirniadodd y Swyddfa Archwilio'r BBC am fod y taliadau'n peryglu ymddiriedaeth y cyhoedd.

Nododd y Swyddfa Archwilio fod y cyn gyfarwyddwr cyffredinol George Entwistle wedi derbyn £475,000 wedi iddo gyhoeddi ei ymddiswyddiad yn Nhachwedd 2012.

Roedd hyn yn cynnwys tair wythnos o gyflog, £25,000, nad oedd yn rhan o'r pecyn diswyddo o £450,000.

Dywedodd yr Arglwydd Patten wrth y pwyllgor fod yr ymddiriedolaeth ond wedi cael gwybod am ddau daliad a'u bod wedi cael sicrwydd eu bod o fewn telerau cytundebol.

"Y BBC oedd yn gyfrifol am y taliadau hyn," meddai Arglwydd Hall.

"Arnon ni oedd y bai, roeddem yn talu gormod."

Straeon perthnasol