BBC Cymru Fyw

Adam Price: ymgeisydd sedd yn y Cynulliad

Published
image copyrightPA
image captionMae Adam Price wedi cynrychioli'r etholaeth fel Aelod Seneddol yn y gorffennol

Mae'r cyn Aelod Seneddol Adam Price wedi ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Bydd yn anelu at ddod yn Aelod Cynulliad yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Dyma'r ardal yr oedd yn ei chynrychioli fel Aelod Seneddol tan 2010.

Fe ddywedodd yr AC presennol yno, Rhodri Glyn Thomas, ym mis Ebrill na fyddai yn sefyll eto.

Straeon perthnasol

  • Adam Price yn cynnig ei enw