Elaine Morgan, awdures The Descent of Woman, wedi marw
- Published
Bu farw'r awdures Elaine Morgan yn 92 oed fore Gwener.
Roedd wedi cael strôc ychydig o wythnosau'n ôl.
Dywedodd ei merch-yng-nghyfraith Kim Morgan: "Roedd yn fenyw anhygoel, yn ysbrydoliaeth i lawer."
Yn gynharach eleni derbyniodd ryddfraint Rhondda Cynon Taf - ei chartref am y rhan fwyaf o'i bywyd.
Roedd yn sgriptiwr teledu, darlithydd, yn golofnydd a rebel gwyddonol.
Eicon
Ysgrifennodd ar gyfer cyfresi teledu fel How Green Was My Valley, The Life and Times of Lloyd George a Testament of Youth ac ennill llu o wobrau.
Fe'i hystyriwyd gan rai yn eicon ffeministaidd.
Ar ddechrau'r flwyddyn ymddeolodd fel colofnydd y Western Mail wedi cyfnod o salwch yn 2012.
Dechreuodd y golofn wythnosol yn yr wythdegau ac ar y papur y dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu yn 1932.
Yn 2012 hi oedd Colofnydd Papur Rhanbarthol y Flwyddyn.
Fe'i ganed yn Nhrehopcyn, Pontypridd yn ferch i lowr.
Cystadleuaeth
Symudodd y teulu i Aberpennar a bu'n byw yno yng nghartref y teulu am flynyddoedd.
Wedi astudio yn Rhydychen, ble graddiodd yn y Saesneg, priododd Morien Morgan yn 1946 a chael tri mab.
Dechreuodd ei gyrfa fel awdur yn y 1950au pan enillodd gystadleuaeth. Yn ddiweddarach, ymunodd â'r BBC gan ddechrau ysgrifennu dramau teledu.
Yn y 1970au, newidiodd gyfeiriad, gan herio'r sefydliad gwyddonol gyda theori newydd am esblygiad dynol.
Daeth ei llyfr The Descent of Woman yn boblogaidd drwy'r byd.