Warburton ddim yn chwarae am fisoedd?

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Warburton ei anafu gyda 13 munud yn weddill yn ail brawf y Llewod yn erbyn Awstralia

Mae 'na bryder y bydd Sam Warburton yn methu dechrau'r tymor newydd gyda'r Gleision oherwydd anaf i linyn y gar.

Cafodd Warburton ei anafu yn yr ail brawf yn erbyn Awstralia ar daith ddiweddar y Llewod.

Mae tîm meddygol y Gleision wedi dweud na fydd Warburton yn holliach am dri neu bedwar mis.

Dydy'r Gleision heb asesu cyflwr y blaenasgellwr yn fanwl ond mae'n debyg bod yr anaf yn ddifrifol.

Warburton oedd capten y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia ond methodd y prawf olaf yn erbyn Awstralia oherwydd yr anaf.

Alun Wyn Jones oedd y capten ar gyfer y gêm fuddugol honno.

Straeon perthnasol