Bydwraig yn euog o gamymddwyn ac yn 'risg i'r cyhoedd'

  • Cyhoeddwyd
Noah Tyler
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Noah Tyler oherwydd "methiant difrifol"

Mae panel wedi penderfynu bod bydwraig, a roddodd driniaeth i fabi fu farw 10 mis yn ddiweddarach, yn euog o gamymddwyn.

Rhoddodd Julie Richards driniaeth i'r babi Noah Tyler a'i fam yn 2011 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd Noah niwed i'r ymennydd am nad oedd hi wedi sylwi bod cyfradd curiad ei galon yn uchel.

Roedd y panel yn ystyried tri chyhuddiad yn ei herbyn ac fe'i cafwyd yn euog o'r tri.

'Risg'

Dywedodd cadeirydd y panel Richard Davies fod Miss Richards yn "risg o hyd i'r cyhoedd".

"Roedd ei gofal yn llawer is na'r safonau y mae rhywun yn eu disgwyl."

Yn y cwest i farwolaeth Noah y llynedd penderfynwyd bod "methiant difrifol i ddarparu gofal meddygol sylfaenol" i'r babi a'r fam a bod hyn wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bydd panel disgyblu yn penderfynu ar gosb Julie Richards fis nesaf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro i rieni Noah ac wedi dweud iddyn nhw adolygu gweithdrefnau.

Ar hyn o bryd mae Ms Richards wedi ei gwahardd o'i gwaith.

Bydd y panel disgyblu'n penderynu'r gosb ar Awst 2.