Dathlu 70 mlynedd ers sefydlu gwasanaeth achub yr Awyrlu
- Cyhoeddwyd

Mae gogledd Cymru yn ganolbwynt cyfres o ddathliadau i nodi 70 mlynedd ers sefydlu gwasanaeth achub yr Awyrlu.
Pencadlys y gwasanaeth yn Awyrlu'r Fali ar Ynys Môn a mynyddoedd Eryri a sbardunodd y syniad i sefydlu'r gwasanaeth yn y lle cyntaf.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n rhaid symud nifer o ganolfannau a safleoedd hyfforddi'r Awyrlu o dde ddwyrain Lloegr i ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru a'r Alban.
Ond roedd nifer o beilotiaid yn ei chael yn anodd hedfan yng nghanol y mynydd-dir.
Felly yn 1942 dechreuodd ymgyrch i geisio cael offer arbenigol a mynyddwyr profiadol i ddelio gyda nifer cynyddol y meirw.
Dyna oedd dechrau'r gwasanaeth a gymrodd dros ddegawd i'w ddatblygu'n llawn.
Diffyg offer
Doedd gan y tîm achub mynydd gwreiddiol ddim dillad tywydd gwlyb na goleuadau.
Bu'n rhaid iddynt osod hoelion yng ngwadnau eu hesgidiau er mwyn gallu dringo ar y creigiau, ac roeddynt yn dringo mewn masgiau nwy tra'n cario setiau radio trwm.
Ond fe ddalion nhw ati, gan achub bywydau 10 o beilotiaid yn y flwyddyn gynta', ac fe arweiniodd at sefydlu prosiectau tebyg ar draws y DU.
Yn ôl y sgwadron-bennaeth Dave Webster, er bod yr offer wedi gwella mae'r heriau sy'n wynebu timau achub mynydd heddiw yn waeth.
"Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y rhan fwya' o alwadau'n ymwneud â dod o hyd i beilotiaid oedd wedi'u hanafu, ond heddiw mae'r mynyddoedd yn agored i bawb," meddai.
"Dyw'r lluoedd sydd ar alwad ddim yn gwybod pryd fydd y ffôn yn canu ac a fyddan nhw'n gorfod torri peilot yn rhydd o'i awyren, neu ddod o hyd i gerddwr neu ddringwr sydd wedi disgyn."
"Gan fod angen ystod mor eang o sgiliau, dyw'r drefn rhengoedd arferol ddim yn cyfri, mae'r grŵp yn cael ei arwain gan y mynyddwr mwya' profiadol a medrus," ychwanegodd.
"Maen nhw'n gorfod gwirfoddoli ar gyfer y gwasanaeth ar ben eu dyletswyddau arferol gyda'r Awyrlu ond, yn ddigon rhyfedd efallai, does yna byth brinder gwirfoddolwyr."
Dechreuodd y dathliadau 70 mlynedd gydag arddangosfa o waith y gwasanaeth achub ym Maes Awyr Caernarfon ddydd Sul.