Chwilio am ddyn ger cronfa ddŵr

Cronfa ddŵr Cantref, Powys Image copyright Gareth James
Image caption Mae'r gronfa ddŵr i'r gogledd o'r A470 ger Merthyr Tudful

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn sydd wedi mynd ar goll ger cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog, Powys.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod yr awdurdodau wedi'u galw i gronfa ddŵr Cantref tua 2:45yh ddydd Sul.

Credir fod y dyn yn ei 20au.

Wrth i'r gwaith o chwilio barhau, mae ffordd yr A470 wedi ei chau rhwng Merthyr Tudful a chyffordd yr A4059 i'r gogledd o'r safle.

Mae Cronfa Ddŵr Cantref yn un o gyfres o gronfeydd ar hyd yr A470 ger Merthyr Tudful.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.