Cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o filiau newydd.
Dyma'r deddfau y mae Carwyn Jones yn gobeithio eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn nesaf.
Cyflwynodd filiau oedd eisoes yn rhan o raglen ddeddfwriaethol bum mlynedd ei lywodraeth, gan gynnwys Bil Cam-drin Domestig a Bil Cynllunio.
Ond roedd nifer o filiau newydd hefyd.
Bygwth
Mae Bil Cenedlaethau'r Dyfodol wedi ei seilio ar gynllun y Bil Datblygiad Cynaliadwy.
Y bwriad yw sicrhau bod cymunedau yn gallu delio hefo pwysau fydd yn bygwth eu goroesiad yn y dyfodol.
Bydd rhwymedigaeth gyfreithiol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy yn cael ei hymestyn i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw'r brif egwyddor drefniadol ym mhob un o weithredoedd cyrff cyhoeddus yw bwriad y bil.
Er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth y maen nhw'n ei wneud, mae cynghrair o ymgyrchwyr gwyrdd yn pryderu bod cynigion y llywodraeth yn "rhy wan".
Mae'r grŵp wedi cyhoeddi cynnig amgen i'r ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy a dyletswydd i sefydlu swydd Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy.
Ar ran y cyrff, dywedodd Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai addewidion mentrus o ran datblygu cynaliadwy ... ond nid yw hyn yn gyson ar draws y llywodraeth ac rydym yn credu bod deddfwriaeth gref yn angenrheidiol er mwyn symud tuag at Gymru gynaliadwy."
Iechyd
Ym mis Mehefin cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y byddai bil yn cael ei gyflwyno i roi tair blynedd yn lle un i fyrddau iechyd sy'n rhedeg ysbytai Cymru i fantoli'r gyllideb.
Os caiff Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd ei basio, yna bydd y newid i'r rheolau ariannol yn dechrau mis Ebrill nesaf.
Mae byrddau iechyd wedi cael trafferth yn rheolaidd i fantoli cyllidebau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol er gwaethaf cyllid ychwanegol gan weinidogion.
Nod y Bil Cam-drin Domestig yw gosod dyletswydd ar y cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus i baratoi strategaeth cam-drin ddomestig.
Bydd Bil Cynllunio yn cryfhau'r ddeddfwriaeth gynllunio bresennol er mwyn helpu sicrhau adfywiad economaidd.
Hawliau
Bwriad y Mesur Tai yw gwella hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat a rhoi mwy o bwyslais ar atal di-gartrefedd.
Mae'r Bil Merlod yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i ddal, cadw neu ddifa ceffylau sy'n cael eu gadael, a sicrhau bod perchnogion sy'n gadael i'w hanifeiliaid bori yn anghyfreithlon yn atebol.
Mae'r Mesur Addysg Uwch yn ceisio rhoi fframwaith gadarn i sicrhau safon uchel o addysg uwch yng Nghymru, tra bod y Mesur ar Wasanaethau Cyhoeddus yn delio â newidiadau telerau gwaith yn y sector.