Tŷ Siamas: 'Angen asesu'n well'
- Cyhoeddwyd

Chwe blynedd ers sefydlu canolfan gerddoriaeth werin yn Nolgellau, gyda gwerth £1.2 miliwn o nawdd gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewropeaidd, mae'r BBC wedi darganfod bod un o brif atyniadau'r ganolfan - arddangosfa ryngweithiol - wedi cau oherwydd diffyg diddordeb.
Cafodd Tŷ Siamas ei ddisgrifio fel datblygiad "arloesol ac unigryw" ar y pryd, a'r addewid oedd y byddai'n cynnal 19 o swyddi yn yr ardal ac yn cyfrannu at yr economi leol.
Ond dim ond dau aelod o staff rhan amser sy'n gweithio yn Nhŷ Siamas bellach, ac mae'r siop yn yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan fusnes crefftau lleol.
Mae cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Darren Millar wedi dweud bod gwallau yn y ffordd mae'r Llywodraeth yn rhoi grantiau i ddatblygiadau tebyg.
Ond, yn ôl y Llywodraeth, mae Tŷ Siamas wedi cydymffurfio â phrif ofynion y cais am arian, drwy sefydlu canolfan gerddoriaeth er budd y gymuned ac ymwelwyr.
Arloesol
Cafodd Tŷ Siamas ei ddisgrifio yn 2007 fel datblygiad "unigryw" fyddai'n mynd ag ymwelwyr ar "daith drwy hanes cerddoriaeth werin gan ddefnyddio technoleg fodern".
Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am yr adeilad, Siamas Cyf, y byddai'r ganolfan yn cyfrannu £10 miliwn i'r economi leol dros 10 mlynedd, a byddai hyn yn arwain at greu 19 o swyddi yn ardal Dolgellau, gyda 5 o'r rhain yn Nhŷ Siamas.
Adroddiad Illtud ab Alwyn
Cafodd £1.2 miliwn ei wario ar y cynllun, nawdd gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewropeaidd.
Nawr mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yr AC Ceidwadol Darren Millar, yn codi cwestiynau am sut mae'r Llywodraeth yn asesu cynlluniau busnes i fentrau fel Tŷ Siamas.
"Rhaid cwestiynu pa mor realistig oedd y cynllun - pa mor realistig oedd o y byddai'n bosib cynnal canolfan gelfyddydol mewn tref sy'n fach o'i gymharu â'r wlad i gyd," meddai.
"Rydw i'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod cynlluniau busnes yn cael eu profi yn ddigon addas yn y dyfodol, gan fod hwn yn enghraifft o brofi gwael."
Newid trywydd
Dywedodd rheolwyr Tŷ Siamas ei bod hi wedi dod i'r amlwg yn eithaf buan na fyddai cyllid o ymwelwyr i'r arddangosfa yn ddigon i gynnal y busnes, gan fod niferoedd ymwelwyr yn isel iawn.
Dywedodd y rheolwyr: "Mae Tŷ Siamas yn bodoli heddiw o ganlyniad i benderfyniad y rheolwyr i amddiffyn yr adeilad ar gyfer y gymuned, a newid elfennau'r cynllun busnes oedd yn ddiffygiol."
"Mae Tŷ Siamas bellach yn rhydd o unrhyw oblygiadau ariannol i ddarparwyr grantiau ac rydym yn llwyddo i dalu costau'r busnes."
"Yn sicr os byddai Tŷ Siamas wedi cadw at yr un cynllun busnes, byddai'r ganolfan wedi cau ac yn un arall ar y rhestr o gynlluniau oedd wedi methu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod swyddogion wedi pwyso a mesur cynaladwyedd y cynllun mewn sawl ffordd.
Yn ôl y llefarydd, doedd creu 19 o swyddi ddim yn darged ar gyfer y cynllun, a'u bod yn fodlon bod y cynllun wedi cwblhau ei brif amcan, sef sefydlu canolfan i gerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol yn yr ardal.