Pryder am ddiogelwch Ras Ryngwladol yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr Ras yr Wyddfa wedi dweud bod yr Wyddfa yn "rhy brysur" i gynnal y ras mewn ffordd ddiogel.
Dywedodd y trefnydd, Stephen Edwards, ei fod yn bwriadu gofyn am ganiatâd i gau'r mynydd i gerddwyr pan fydd ras ymlaen yn y dyfodol.
Bydd 600 o gystadleuwyr yn rasio i fyny ac i lawr y mynydd ddydd Sadwrn, ond mae newid bychan i gwrs y ras eleni yn golygu y bydd rhedwyr yn agos iawn i ddefnyddwyr eraill y mynydd.
Dywedodd Stephen Edwards ei fod yn poeni y gall gormod o bobl ar y mynydd fod yn berygl yn ystod y ras.
Ond mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud nad oes cynllun i gau'r mynydd i gerddwyr yn y dyfodol.
Prysurdeb
Dyma'r 38fed tro i'r ras gael ei chynnal ar y mynydd, ond mae rheolau iechyd a diogelwch eleni yn golygu na fydd rhedwyr yn gallu defnyddio llwybr y rheilffordd i lawr y rhan brysuraf o'r mynydd, sef chwarter milltir olaf y ras.
Mae hyn yn golygu y bydd rhedwyr a defnyddwyr hamddenol yn defnyddio'r un llwybrau, rhywbeth y mae'r trefnydd yn poeni amdano.
"Rydw i yn pryderu am boblogrwydd y mynydd, mae'n brysur gyda cherddwyr a finnau yn ceisio trefnu Ras Ryngwladol yr Wyddfa."
"Mae'n bryder i geisio sicrhau bod yr ochr iechyd a diogelwch yn gywir; sicrhau bod cerddwyr yn deall bod ras ymlaen ddydd Sadwrn, a gwneud yn siŵr bod y rhedwyr yn ymwybodol bod cerddwyr ar y llwybr hefyd."
Cau'r mynydd
Mae Mr Edwards yn meddwl mai un ateb posib i'r broblem fyddai i gau'r mynydd i gerddwyr ar ddiwrnod y ras.
"Byddaf yn gofyn i'r parc cenedlaethol os gawn ni gau'r mynydd. Mae'n debyg mai 'na' fydd yr ateb ond pwy a ŵyr yn y dyfodol."
Helen Pye, warden yr Wyddfa sy'n gyfrifol am edrych ar ôl y mynydd, a'r 380,000 o bobl oedd wedi ymweld â'r mynydd y llynedd.
Dywedodd bod y mynydd yn gallu bod yn brysur iawn yn ystod yr haf, a bod angen i ymwelwyr fod yn ymwybodol o'r ras y penwythnos yma.
"Ar y copa ar ddiwrnod poeth mae'n gallu bod yn brysur iawn."
"Y cyngor i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i gerdded y mynydd yw dod ddydd Sul oherwydd bydd dydd Sadwrn yn brysur iawn a bydd cystadleuwyr yn rhedeg yn gyflym iawn i lawr y llwybrau."
Bydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn dechrau am 11:00yb ddydd Sadwrn, Gorffennaf 20.
Straeon perthnasol
- 28 Mai 2013