Gêm yn 'uchafbwynt gyrfa' i reolwr Y Seintiau Newydd?

  • Cyhoeddwyd
Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd swydd rheolwr y Seintiau yn Rhagfyr 2011 ac o fewn pum mis y nhw enillodd y gynghrair.

Mae rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn gobeithio y bydd y gêm yn erbyn Legia Warsaw nos Fercher yn "uchafbwynt ei yrfa".

Y Seintiau yw pencampwyr yr Uwchgynghrair ond cyrhaeddodd y Pwyliaid gêm gynderfynol Cwpan Ewrop yn 1970 a Chwpan Enillwyr y Cwpan yn 1991.

"Maen nhw'n gry', yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol ac, yn sicr, mi fydd yn her," meddai.

"Ond mae ein carfan ni'n gry' ac mi ddysgon ni lawer o wersi'r tymor diwetha' yn erbyn Helsingborgs.

'Addawol'

"Os bydd ein perfformiad yn addawol nos Fercher mi fyddwn yn gwybod beth fydd angen ei 'neud yn yr ail gymal."

Torrodd ei goes yn Ionawr 2003 pan oedd yn chwarae i Crystal Palace.

"Mi wnes i yfed lot. Doeddwn i ddim yn alcoholig ond mi oedd yn lladd y poen."

Cafodd bedair llawdriniaeth a dwy flynedd a hanner o adsefydlu.

Cyfaddefodd fod rheoli Airbus a'r Seintiau Newydd wedi ei gadw'n gall.

'Llwyddiannau'

"Mae'n debyg na fyddwn i'n ymwneud â'r gêm erbyn hyn pe bai fy ngyrfa fel pêldroediwr yn weddol hir.

"Erbyn hyn, dwi'n falch o'r llwyddiannau."

Cafodd swydd rheolwr y Seintiau yn Rhagfyr 2011 ac o fewn pum mis roedden nhw wedi ennill y gynghrair.

Ailadroddodd y gamp yn 2013 cyn i'r Seintiau ennill Cwpan Cymru.

Seintiau Newydd v Legia Warsaw (gêm ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr UEFA)

Y Cae Ras, Wrecsam, nos Fercher, 7.15pm

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol