Pwyllgor o ACau yn beirniadu trefn addasiadau tai
- Cyhoeddwyd

Dyw'r system darparu addasiadau yn y cartre' ddim yn deg oherwydd gormod o amrywiaeth mewn gwahanol ardaloedd, yn ôl adroddiad gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Mae miloedd o bobol yn addasu eu tai bob blwyddyn ac mae hyn yn amrywio o roi canllaw ar y grisiau i newid drysau a ffenestri.
Ond dyw'r broses drefnu a thalu am y gwaith ddim yn glir nac yn hawdd, yn ôl Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad.
Mewn rhai ardaloedd mae awdurdodau lleol yn trefnu'r gwaith tra bod rhai cynghorau'n disgwyl i'r unigolion wneud y trefniadau.
Hawliau
Mae'r pwyllgor yn galw am siarter i esbonio hawliau'r unigolyn a hefyd am welliannau i'r system asesu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu adroddiad y pwyllgor.
Dywedodd Christine Chapman AC, cadeirydd y pwyllgor: "Mae ar bobl angen addasiadau i'w cartrefi am wahanol resymau ac ar wahanol adegau yn eu bywydau.
"Oedran yw'r rheswm i rai ond i eraill gallai fod o ganlyniad i ddamwain sy'n golygu bod angen cymorth i ddod yn annibynnol eto.
"Clywodd y pwyllgor fod y system bresennol yn rhy gymhleth ac anghyson ac nad yw'n gwneud digon i barchu dymuniadau ac anghenion y bobl fwyaf pwysig yn y broses, y bobl sydd angen yr addasiadau.
'Eglurder'
"Rydym o'r farn y bydd siarter cwsmeriaid, gwarant gan awdurdodau lleol o'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl ac erbyn pryd yn rhoi eglurder a hyder i bobl."
Mae wedi annog Llywodraeth Cymru i osod safonau sylfaenol ansawdd gwasanaeth ac i ymchwilio i drefn prawf moddion grantiau cyfleusterau anabl, trefn, meddai, sy'n "rhy gymhleth ac annheg".
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi dweud: "Bydd cost peidio â gwneud hyn yn iawn yn rhy fawr - yn nhermau'r gost i'r pwrs cyhoeddus ond yn bwysicach o safbwynt iechyd, lles ac annibyniaeth yr unigolyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Er bod y gwasanaethau'n amrywio, mae'n bwysig nodi bod gwelliannau mawr wedi bod o ran cyflawni'r gwasanaethau ac rydym yn ymroddedig i barhau'r broses.
"Fel rhan o'r papur gwyn ar dai rydym yn adolygu'r ystod o gymhorthion a rhaglenni addasiadau er mwyn asesu a fydd modd gwella'r gwasanaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2013