Dyn yn yr ysbyty wedi ymgyrch achub ger Y Waun

  • Cyhoeddwyd
Ystafell reoli
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu alwad am 6:55pm nos Fawrth

Aed â dyn yn ei 20au i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi ymgyrch achub nos Fawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad yn ymyl Y Waun ger Wrecsam.

Hefyd cafodd plismyn Heddlu West Mercia eu galw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi gawson ni alwad am 6:55yh fod dyn wedi syrthio i'r dŵr yn aber afonydd Dyfrdwy a Cheiriog ger Pont Llwgoden.

"Mi gafodd ei dynnu o'r dŵr am 7:51pm ac mae'r dyn yn Ysbyty Brenhinol Amwythig.

"Mae tystion wedi cael eu holi ac mae ymchwiliad wedi cychwyn.

"Rydym yn atgoffa'r cyhoedd am beryglon nofio mewn dyfroedd agored, yn enwedig yn y tywydd cynnes."