Asesu effaith datganoli treth stamp i Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bod yn ymgynghori gyda busnesau a ddylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth ar dreth stamp.
Dyma un o'r prif argymhellion yn adroddiad comisiwn Silk ar ddatganoli ond mae gweinidogion eisiau asesu'r effaith ar y diwydiant tai ac adeiladu cyn bwrw 'mlaen ag unrhyw gynlluniau.
Mae disgwyl i brif ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, gadarnhau ymgynghoriad byr gyda busnesau, fyddai wedi'i gwblhau erbyn yr hydref - sef pryd mae disgwyl i Lywodraeth y DU roi ei hymateb yn llawn i adroddiad Silk.
Mae'r adroddiad yn argymell rhoi rhagor o rymoedd i Lywodraeth Cymru i amrywio trethi.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rheolaeth dros dreth stamp, sy'n cael ei dalu ar werthiant eiddo, yn hollbwysig i hybu'r farchnad dai a chefnogi'r diwydiant adeiladu. Byddai hefyd yn dod ag incwm i Fae Caerdydd, fyddai'n galluogi gweinidogion i weithredu pwerau benthyca newydd.
Ond mae gweinidogion yn San Steffan eisiau asesu'r effaith bosib o gyflwyno trethi amrywiol ar fusnesau'r naill ochr neu'r llall i glawdd Offa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012