Nifer y di-waith yn gostwng
- Cyhoeddwyd

Mae 120,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru yn ôl y ffigyrau diweithdra diweddaraf. Cofnodwyd y ffigyrau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai 2013.
Mae hyn yn gynnydd o 3% ar gyfer misoedd y gaeaf o fis Rhagfyr i fis Chwefror. Ond mae'r ffigyrau diweddaraf 10,000 yn is o'i gymharu â'r un amser y llynedd.
Ar draws Prydain mae 2.5m o bobl sydd ddim mewn gwaith. Mae'r ffigwr hwn wedi gostwng 57 mil ers y tri mis blaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y newyddion yn galonogol:
"Mae'r ffigyrau yn dangos gwellhad pellach yn y farchnad lafur yng Nghymru, sydd unwaith eto wedi perfformio yn well na Phrydain ar y cyfan ac yn gyson gyda data economaidd a chanlyniadau arolygon busnes sydd wedi dangos arwyddion positif yn y misoedd diwethaf."
'Risg pellach'
Ychwanegodd y llefarydd: "Er bod hyn yn galonogol ar gyfer Cymru, mae adferiad yr economi ym Mhrydain ar y cyfan yn parhau yn araf ac wedi gwaethygu oherwydd economi wan a system fancio fregus.
"Mae polisïau lles llywodraeth Prydain yn risg pellach i'r economi, yn enwedig yng Nghymru."
Maent yn dweud y byddant yn canolbwyntio ar greu swyddi da cynaliadwy a'i bod yn barod yn gwneud hyn trwy raglenni gwaith.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, mae'r ffigyrau yma yn deyrnged i'r gymuned fusnes yng Nghymru sydd wedi llwyddo i greu cyfleoedd gwaith a swyddi:
"Mor aml mae'r economi yng Nghymru yn cael ei danbrisio Ond dw i'n gwybod o'r gynhadledd swyddi nes i gynnal yng ngogledd Cymru'r wythnos ddiwethaf fod yna ystod o dalent ifanc sydd yn awyddus i weithio.
"Mi glywais i gan gyflogwyr a phobl sydd yn chwilio am waith eu bod yn awyddus i chwarae rhan yn y gweithle a gyrru economi Cymru ymlaen. Felly rydw i wedi fy nghalonogi bod y ffigyrau cyflogaeth ddiweddar yn dangos y newid yma."
Dywedodd llefarydd Llafur ar faterion Cymreig, Owen Smith AS: "Mae'r gostyngiad yn nifer y di-waith ar draws y DU i'w groesawu ond mae'n achos pryder fod y nifer ar i fyny yng Nghymru. Mae hefyd yn bryder fod 'na fwy o bobl bellach sydd allan o waith ers dros flwyddyn nag ar unrhyw adeg arall ers 1996. Os yw'r llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr am fynd i'r afael â diweithdra tymor hir, yna mae'n rhaid iddynt edrych ar bolisïau llwyddiannus y blaid Lafur yn y gorffennol a'r presennol."
Straeon perthnasol
- 12 Mehefin 2013
- 15 Mai 2013
- 17 Ebrill 2013
- 17 Hydref 2012