Marwolaeth dyn yn 'anesboniadwy'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi dweud bod marwolaeth dyn yng ngogledd Cymru yn "anesboniadwy".

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i leoliad ger gwesty The Broadway Hotel yn Llandudno fore Mercher am 6.15am.

Aed â'r dyn yn ei chwedegau cynnar i Ysbyty Glan Clwyd lle bu farw'n ddiweddarach.

Roedd anafiadau difrifol i'w ben.

Dylai unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ffonio'r heddlu ar 101 a rhoi'r cyfeirnod P114450.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol