Adroddiad: Llai yn gwylio S4C
- Cyhoeddwyd

Mae'r nifer sydd wedi bod yn gwylio S4C wedi gostwng, medd adroddiad blynyddol y sianel a hynny mewn cyfnod pan oedd mwy o doriadau i gyllid y sianel a newidiadau i'r amserlen.
Noda'r adroddiad bod llai wedi edrych ar S4C yn 2012 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mi ddangosodd yr ystadegau oedd yn mesur faint o bobl oedd yn gwylio am o leiaf 15 munud y mis neu fwy fod 584,000 yn gwylio. 635,000 oedd y ffigwr yn 2011.
Roedd cwymp hefyd yn y nifer oedd yn gwylio am o leiaf dri munud y mis ac yn nifer y siaradwyr Cymraeg oedd yn dewis S4C a hynny o 276,000 yn 2011 i 265,000 yn 2012.
'Ddim yn ddigonol'
Ond mae prif weithredwr y sianel Ian Jones yn rhybuddio yn y ddogfen na ddylid defnyddio un ffordd i fesur nifer y gwylwyr yn yr oes fodern.
"Yn y byd teledu aml-lwyfan, dyw defnyddio un mesur perfformiad syml er mwyn asesu llwyddiant ddim yn ddigonol bellach.
"Mae llwyddiant heddiw yn cael ei ddehongli trwy gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cyrhaeddiad y gwasanaeth, effaith economaidd, gwerthfawrogiad y gynulleidfa, ymddiriedaeth, darpariaeth lwyddiannus i ddysgwyr, rhaglenni plant, a chyfrannu at effaith bositif ar ddiwylliant a'r iaith Gymraeg."
Roedd cynnydd o 16% yn nifer oedd yn gwylio Clic sef y gwasanaeth S4C sydd yn cael ei gynnig i bobl ail edrych ar raglenni.
Amserlen
Mae Cadeirydd S4C Huw Jones yn cyfaddef yn yr adroddiad eu bod wedi cael ymateb negyddol i'r newidiadau i'r amserlen a gyhoeddwyd ym mis Mawrth y llynedd.
Roedd y newidiadau wrth i Ian Jones ddechrau ar ei waith fel prif weithredwr ac mae'n dweud eu bod nhw wedi ymateb i'r adborth ac wedi newid yr amserlen.
"Mi wnaethon ni gynnal ymchwil yn ystod y flwyddyn wnaeth ddangos fod y gynulleidfa, er yn credu bod yna le i wella, yn credu bod yr amserlen wedi ei hadolygu yn ffres ac yn newydd."
Ffigyrau uchaf
Mae'r adroddiad yn nodi'r rhaglenni gyda'r ffigyrau uchaf mewn gwahanol gategorïau megis adloniant, materion cyfoes a newyddion, plant a ffeithiol.
Hefyd yn y ddogfen mae canfyddiadau gwaith ymchwil gafodd ei wneud gan y sianel oedd yn gofyn am sgôr gwerthfawrogiad y gynulleidfa i wahanol raglenni.
Dim ond y rhai gyda sgôr o 80 allan o 100 neu fwy sydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.
Straeon perthnasol
- 8 Gorffennaf 2013
- 26 Mehefin 2013
- 13 Mehefin 2013