Ffeinal Heineken yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Toulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken eleniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Toulon oedd enillwyr Cwpan Heineken eleni

Bydd gêm derfynol Cwpan Heineken yn cael ei chynnal yn Stadiwm Mileniwm Caerdydd yn 2014.

Mi aeth Undeb Rygbi Cymru ati i wneud cais wedi i Ffederasiwn Rygbi Ffrainc dynnu'n ôl yn sgil ansicrwydd a fyddai Stade de France ar gael.

Mae hyn yn golygu mai Caerdydd fydd yn croesawu'r gêm derfynol i'r stadiwm am y seithfed tro ers i'r gystadleuaeth ddechrau yn 1996.

Y tro diwethaf i'r ffeinal fod yng Nghaerdydd oedd yn 2011.

Cwpan Amlin

Roedd Undeb Rygbi Pêl-droed ac Undeb Rygbi yr Alban hefyd wedi gwneud ceisiadau.

Fe gadarnhaodd y trefnwyr, Undeb Rygbi Ewrop, y byddai gêm derfynol Cwpan Amlin ym Mharc yr Arfau.

Dyma gartref Y Gleision ers y tymor diwethaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Ewrop Derek McGrath: "Mae Caerdydd wedi bod yn lleoliad ar gyfer rhai gemau terfynol gwych yn y gorffennol ...

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd y penwythnos yn 2014 ym Mharc yr Arfau a Stadiwm y Mileniwm yn ddathliad arall o bopeth sy'n dda am rygbi ar lefel clwb Ewropeaidd."