Achos Cwmbrân: anfon rheithgor adref

  • Cyhoeddwyd
Kim Buckley, Kayleigh Buckley a Kimberley BuckleyFfynhonnell y llun, Gwent police
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Kim Buckley, Kayleigh Buckley a Kimberley Buckley yn y tân ym mis Medi y llynedd

Mae'r rheithgor wedi eu hanfon adref yn achos dyn ifanc sydd wedi ei gyhuddo o ladd tair cenhedlaeth o'r un teulu.

Mae Carl Mills, 28 oed, wedi ei gyhuddo o gynnau tân laddodd ei ferch fach chwe mis oed Kimberley, mam Kimberley sef Kayleigh Buckley oedd yn 17 oed a'r nain Kim oedd yn 46 oed.

Gwadodd y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y tân wedi cychwyn yng Nghwmbrân fis Medi y llynedd ychydig o oriau yn unig wedi i'r babi Kimberley oedd wedi ei geni yn gynnar gyrraedd adref o'r ysbyty.

Er i gymdogion ar Stad Coed Efa geisio helpu'r teulu roedd hi'n rhy hwyr.

Penderfynu

Dywedodd Mr Ustus Wyn Williams fod rhaid i'r rheithgor benderfynu a oedd Mr Mills wedi dechrau'r tân.

Os oedd wedi bwriadu lladd neu achosi niwed difrifol i unrhyw un yn y tŷ, meddai, yna dylid ei ganfod yn euog o lofruddio tri pherson.

Ond os nad oedd wedi bwriadu lladd wrth roi'r tŷ ar dân, meddai, fe allan nhw ystyried dyfarniad o ddynladdiad.

Dywedodd Carl Mills ei fod wedi bod yn yfed mewn cae gerllaw pan y dechreuodd y tân a'i fod yn caru ei ferch a Kayleigh Buckley.

'Gwag'

Yn ôl yr amddiffyn, "bygythiadau gwag" oedd y negeseuon yr oedd Mr Mills wedi eu hanfon at Kayleigh Buckley pan ddywedodd y byddai'n llosgi'r tŷ i lawr.

Roedden nhw wedi eu hanfon, meddai'r amddiffyn, am ei fod o dan ddylanwad diod.

Dywedodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi gweithredu ar y bygythiad am ei fod yn genfigennus a'i fod yn ofni bod Kayleigh Buckley yn rhoi mwy o sylw i'r babi nag iddo ef.