Dyn wedi marw ar ôl i drên ei daro ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan drên yng ngorsaf Prestatyn.
Cafodd yr Heddlu Trafnidiaeth, ddywedodd nad oedd ei farwolaeth yn amheus, eu galw fore Mercher.
Dywedodd llefarydd fod ymholiadau'n parhau er mwyn gwybod pwy oedd y dyn a pham ei fod ar y cledrau.