Criwiau'n ymladd fflamau am oriau ar Fynydd y Rhigos
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr wedi bod yn ymladd fflamau am oriau oherwydd tân ledodd i ardal 30 o erwau.
Chafodd neb ei anafu.
Cafodd criwiau o Dreorci, Aberdâr a Thonypandy eu galw i Fynydd y Rhigos fore Mercher.
Cychwynnodd y tân ychydig cyn 9am yng nghoedwigaeth Beili Glas ger Treherbert.
Roedd glasbren, brws ac ychydig o wair wedi eu cynnau a hofrennydd yn gollwng dŵr ar y tân.
Erbyn amser te roedd y tân yn mudlosgi ond bydd diffoddwyr yn cadw golwg ar y safle am ychydig o ddiwrnodau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol