Sir Gaerhirfryn yn gyfforddus yn erbyn Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae Sir Gaerhirfryn wedi cyrraedd 276 am 2 wiced ar drydydd diwrnod eu gem yn erbyn Morgannwg yn Old Trafford.
Dean Cosker a Graham Wagg sydd wedi cael y wicedi i Forgannwg, ond Simon Katich ac Ashwell Prince sydd yng nghanol y cae ar hyn o bryd, ac maent wedi sgorio dros 140 o rediadau rhyngddynt.
Mae Prince wedi cyrraedd 109 heb fod allan.
Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 93 heb golli wiced ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, wedi i Forgannwg sgorio 474 yn eu batiad cyntaf.
Murray Goodwin oedd prif sgoriwr Morgannwg, gan gyrraedd 194 cyn cael ei ddal oddi ar fowlio Kerrigan.
Morgannwg 474
Sir Gaerhirfryn 276/2 (96 pelawd)