Lansio dinas-ranbarth cyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r dinas-ranbarth cyntaf yng Nghymru wedi ei lansio yn Abertawe.
Mae'n rhan o gynllun mwy gan fusnesau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd-weithio i greu swyddi a hybu'r economi dros y de-orllewin.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys ardal fawr o Sir Benfro yn y gorllewin hyd at Abertawe a Chastell Nedd a Phort Talbot yn y dwyrain.
Dyma'r cyntaf o ddau ddinas-ranbarth yng Nghymru, mae'r ail yn cynnwys Caerdydd a'r cyffiniau.
Hwb economaidd
Er nad oes dinasoedd mawr gyda phoblogaeth dros 500,000 yng Nghymru, mae 'na ranbarthau sydd a llawer mwy o bobl yn byw ynddynt.
Drwy uno'r ddinas a'r dalgylch, bwriad y cynllun yw rhoi hwb economaidd mawr i'r ardal, drwy greu swyddi a hybu adfywiad economaidd.
Mae 700,000 yn yr ardal o gwmpas Abertawe, ac 1.4 miliwn yn y de-ddwyrain o gwmpas Caerdydd.
Wrth lansio'r ddinas-ranbarth, y gobaith yw gwella twristiaeth, buddsoddiad a thrafnidiaeth.
Dywedodd arweinydd cyngor Abertawe, David Phillips, ei fod yn ddiwrnod pwysig i'r 700,000 o bobl sy'n byw o fewn y ddinas-ranbarth:
"Byddwn yn cyd-weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol a chymdeithasau eraill i greu rhanbarth cryf i hybu twf economaidd."
"Nid geiriau yn unig fydd y cynllun yma. Bydd y cynllun yn golygu swyddi, buddsoddiad a phrosiectau trawsnewidiol fydd yn elwa pobl a busnesau de-orllewin Cymru."
Cydweithio
Mae Steve Penny wedi bod yn rhan o'r grwp oedd yn gweithio i sefydlu'r rhanbarth:
"Mae'r cynllun yn dangos sut gall gymunedau, busnesau a'r llywodraeth gyd-weithio i hybu ein gobeithion am adfywiad."
"Mae 'na benderfyniad i sicrhau bod y cynllun yn gweithio i holl ardal Bae Abertawe."
Bydd dinas-ranbarth cyntaf Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, lle bydd gweinidog yr economi Edwina Hart yn gwneud araith.
Straeon perthnasol
- 16 Hydref 2012
- 11 Gorffennaf 2012