Cyrsiau Cymraeg yn 'ymylol' yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
Ysgrifennu CymraegFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae tua 18,000 o bobl yn cofrestru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg bob blwyddyn

Mae angen i gyflogwyr rhoi mwy o gyfleoedd i'w staff i ddysgu Cymraeg yn y gweithle, yn ôl un sydd yn gweithio yn y maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Mae Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, yn dweud nad yw hyn yn digwydd yn ddigonol ar hyn o bryd.

"Does dim digon o ddatblygu o ran dysgu Cymraeg yn y gweithle.

"Mae'n bosib ein bod ni fel canolfannau ddim wedi bod yn ddigon strategol.

"Ond rydyn ni yn ffeindio bod cyflogwyr yn trin cyrsiau Cymraeg yn ymylol gyda staff yn gorfod gwneud y cyrsiau yn eu horiau eu hunain."

Wythnos yma fe gyhoeddwyd adroddiad gan grŵp oedd yn edrych ar y maes dysgu'r iaith.

'Uchelgeisiol'

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ac un o'r argymhellion oedd yr angen i hybu'r Gymraeg yn y gwaith.

Yn ôl Mr Meredith, dylai gweithwyr fod yn cael amser i ffwrdd o'u gwaith i fynychu cyrsiau ac mae'n dweud bod hi'n bwysig bod y safonau gan y Comisiynydd Iaith yn rhai "uchelgeisiol" o ran hyn hefyd.

Argymhelliad arall yn yr adroddiad oedd creu un corff newydd i ofalu am y ddarpariaeth Gymraeg.

Byddai hyn yn golygu cael gwared a'r chwe chanolfan sydd wedi bodoli ar draws Cymru ers 2006.

Mae'r cyfarwyddwr yn dweud beth bynnag ddigwyddith bod angen i'r cyllid aros ar lawr gwlad.

'Diffyg amser'

"Y peth pwysig ydy beth bynnag fydd ffurf y corff cenedlaethol fod yr arbenigedd yn cael ei gadw yn lleol a bod y corff yn strategol yn hytrach nag yn gorff biwrocrataidd."

Roedd yr adroddiad yn nodi bod y niferoedd sydd wedi eu cofrestru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg wedi aros yn eithaf cyson ar hyd y blynyddoedd diwethaf ac mae Mr Meredith yn cydnabod y bydden nhw'n hoffi gweld mwy o gynnydd.

Diffyg amser ac arian yw'r rheswm am hyn meddai.

Mae'n cytuno gyda'r angen i gynyddu'r cyrsiau dwys hefyd sydd yn cael eu cynnig ond yn dweud nad oes yna alw amdanyn nhw oherwydd nad oes gan bobl yr amser i roi.

Wrth groesawu'r adroddiad mae'n dweud nad yw hi yn glir sut y bydd y nifer o argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu gwireddu mewn realiti.

"Y peth allweddol ydy sut ydyn ni yn denu mwy i ddewis gwneud y cyrsiau yn Gymraeg, sut mae'r argymhellion yma yn mynd i ddenu mwy i wneud y cyrsiau?"

Fel canolfan yng nghanolbarth Cymru dywed y byddan nhw yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i ddefnyddio'r iaith fwy tu allan i'r dosbarth er mwyn mynd i'r afael a'r heriau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol