Y Seintiau Newydd 1-3 Legia Warsaw
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth Pencampwyr Uwchgynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, yng nghymal cyntaf ail rownd Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Legia Warsaw.
Roedd tîm Craig Harrison ar y blaen o 1-0 ar hanner amser y gêm oedd yn cael ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Roedd y Seintiau wedi synnu'r ymwelwyr wrth fynd ar y blaen gydag ergyd Ryan Fraughan wedi 11 munud.
Ond llwyddodd y Pwyliaid i ddominyddu'r gêm yn yr ail hanner gan sgorio tair gôl i sichrau'r fuddugoliaeth a'r fantais yn yr ail gymal.
Y tri rwydodd i Legia oedd Michal Kucharczyk, Marek Saganowksi a Jakub Kosecki.
Wedi ergyd lwyddiannus Fraughan, a aeth drwy goesau'r gôl-geidwad Dusan Kuciak, fe gafodd Alex Darlington gyfle da i roi'r tîm cartref ymhellach ar y blaen cyn yr hanner cyn i'r ergyd gael ei harbed gan Kuciak.
Roedd yr ymwelwyr yn llawer cryfach yn yr ail hanner, eu sgiliau a'u ffitrwydd yn llawer uwch na'r Seintiau.
Roedd hi'n amlwg bod chwaraewyr rhyngwladol yn y garfan.
Ond fe wnaeth Y Seintiau amddiffyn yn arwrol am y rhan fwya' o'r ail hanner.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei gynnal yn Warsaw nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2013