Gweinidog ddim am greu safleoedd cadwriaethol morol
- Cyhoeddwyd

Fydd safleoedd cadwriaethol morol ddim yn cael eu sefydlu oddi ar arfordir Cymru.
Fe gyhoeddoddd Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, ei fod yn dileu'r cynlluniau i greu'r safleoedd cadwriaethol.
Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn asesu'r ardaloedd sydd eisoes wedi eu dynodi i warchod bywyd gwyllt yn y môr i weld a oes angen eu hatgyfnerthu.
Roedd y cynllun wedi ei feirniadu gan nifer, gan gynnwys pysgotwyr.
Wrth hysbysu ei gyd-aelodau yn y Cynulliad dywedodd Mr Davies bod nifer sylweddol o bobl yn ddibynnol ar y môr fel bywoliaeth neu ar gyfer gweithgareddau hamdden a'u bod fel llywodraeth am weld hyn yn parhau ac yn datblygu.
Ymateb cryf
Dywedodd ei fod wedi cyfarfod gyda thîm gafodd ei sefydlu i edrych ar ymateb pobl yn yr ymgynghoriad a gafodd ei gynnal y llynedd.
O ganlyniad i drafodaeth gyda nhw a thrafod yr ymatebion y mae Mr Davies wedi cyhoeddi'r bwriad i beidio bwrw ymlaen gyda'r safleoedd.
Ychwanegodd y bydd yn adolygu'r sefyllfa ac unrhyw gamau sydd angen eu gwneud yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Fe fydd swyddogion y gweinidog yn parhau i gydweithio gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i adolygu rheolaeth y safleoedd a chanfod unrhyw welliannau os bydd angen.
Dywedodd y gweinidog: "Rydym ni mewn sefyllfa gryfach erbyn hyn i asesu ein cyfraniad ecolegol yn yr ardaloedd."
"Oherwydd hynny, rydw i wedi comisiynu asesiad o'r ardaloedd cadwriaethol presennol i ddarganfod os oes unrhyw fethiannau, a beth yw'r opsiynau i wella hynny."
"Os oes angen gwelliannau, rydw i'n credu y dylent fod yn syml, yn gyfatebol ac yn ateb y galw."
Straeon perthnasol
- 18 Gorffennaf 2012
- 3 Gorffennaf 2012
- 17 Ebrill 2012