Achos trywanu yng Nghaerdydd: Cyhuddo tri dyn

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi eu cyhuddo wedi ffrwgwd rhwng grŵp o ddynion yn Nhremorfa yng Nghaerdydd, pan gafodd un dyn ei drywanu.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Craigmuir am 7:27am ddydd Sul wedi galwad i'r gwasanaeth 999.

Cafodd pump o ddynion lleol eu harestio.

Mae'r tri dyn, 21, 22, a 39 oed, wedi eu cyhuddo o niweidio'n fwriadol ac anhrefn dreisgar.

Fe fyddan nhw o flaen ynadon Caerdydd ar Awst 2.

Mae un dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau ac mae dyn arall wedi ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae'r heddlu yn parhau â'u hymchwiliad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol