Enwi dyn fu farw ar ôl disgyn i afon yn Y Waun, ger Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Map o'r ardal
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr awdurdodau eu galw i'r safle ychydig cyn 7:00yh nos Fawrth

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw ar ôl disgyn i afon yn y Waun ger Wrecsam.

Roedd Anthony James Lawrence yn 21 oed ac yn dod o Groesoswallt.

Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r ardal wrth aber Afon Ceiriog ac Afon Dyfrdwy toc cyn 7:00yh nos Fawrth ar ôl adroddiadau fod dyn wedi disgyn i'r dŵr a ddim wedi dod yn ôl i'r wyneb.

Cafodd ei dynnu o'r afon bron i awr yn ddiweddarach a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Amwythig.

Cadarnhawyd yn hwyr nos Fawrth ei fod wedi marw.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac mi fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y corff yn ddiweddarach. Bydd y cwest yn agor yn y dyddiau nesaf.

"Rydym yn atgoffa'r cyhoedd am beryglon nofio mewn dyfroedd agored, yn enwedig yn y tywydd cynnes," meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.