Ymgyrch Pallial: arestio dyn

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dyn, 72 oed, ei arestio yn Wrecsam mewn cysylltiad ag ymchwiliad yr heddlu i honiadau o gam-drin plant yn y gorffennol.

Erbyn hyn mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tan mis Hydref, wrth i ymchwiliadau barhau.

Dywedodd ditectifs Operation Pallial fod yr unigolyn wedi ei arestio ar amheuaeth o wyth ymosodiad corfforol.

Dywedir i'r troseddau honedig, yn erbyn pum bachgen a thair merch, gael eu cyflawni rhwng 1974 ac 1986.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd roedd y plant rhwng 10 a 15 oed pan gyflawnwyd y troseddau honedig.