Corff newydd i reoli rygbi rhanbarthol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru a'r 4 rhanbarth wedi cytuno ar fwrdd rheoli newydd ar gyfer rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Bwriad y Bwrdd Rygbi Proffesiynol Rhanbarthol (Professional Regional Game Board) yw gwella cynaladwyedd y rhanbarthau a sicrhau eu bod yn gystadleuol.
Mae'r bwrdd newydd yn cymryd lle'r hen Fwrdd Rheoli, yn dilyn ffrae rhwng y rhanbarthau a'r rheolwyr.
Bydd aelodau o URC, cynrychiolwyr o bob rhanbarth ac un o Rygbi Rhanbarthol Cymru yn eistedd ar y bwrdd.
Dyletswydd
Mae'r bwrdd newydd wedi cytuno i ddelio gyda materion fel cytundebau chwaraewyr a pholisïau recriwtio, datblygu chwaraewyr ac academïau a marchnata rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Bydd y bwrdd hefyd yn gyfrifol am reoli adnoddau a chynllunio ariannol.
Y barnwr Syr Wyn Williams fydd yn cadeirio'r grŵp, fel aelod annibynnol.
Dywedodd prif weithredwr URC, Roger Lewis: "Y nod yw defnyddio'r holl arbenigedd a gwybodaeth i ddatblygu'r systemau a strategaethau fydd o fudd i bawb."
"Mae sefydlu'r bwrdd yn dangos pa mor benderfynol yr ydyn ni i gyd-weithio er mwyn gwella rygbi rhanbarthol yng Nghymru."
Cytundebau
Bydd penderfyniad y bwrdd newydd i ddelio gyda chytundebau chwaraewyr yn sicr yn newyddion da i rai sydd wedi gweld ffraeo rhwng y rhanbarthau a byrddau rheoli yn y gorffennol.
Roedd y ffrae o amgylch dyfodol George North wedi denu beirniadaeth am fethiant rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Ond mae prif weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru, Stuart Gallacher yn meddwl bod y bwrdd newydd yn gam positif.
"Roedd y cyfarfod cyntaf yn un adeiladol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y bwrdd yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r nod o greu rygbi cynnaladwy a chystadleuol yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013