Tywydd poeth: pobl yn marw
- Cyhoeddwyd

Fe allai cymaint â 100 o bobl fod wedi marw yn sgil y tywydd poeth diweddar yng Nghymru yn ôl un astudiaeth.
Mae Ysgol Glendid a Meddygaeth Trofannol Llundain yn amcangyfrif bod rhwng 60 a 100 o bobl wedi marw rhwng 6-14 o Orffennaf.
Dywedodd Ben Armstrong o'r ganolfan mai pobl hŷn fyddai'r mwyafrif o'r rhain. Ychwanegodd hefyd efallai bod rhai o'r marwolaethau wedi digwydd, "ymhlith pobl a fyddai wedi marw ychydig wythnosau wedyn oni bai am y tywydd poeth."
Mae'r ffigwr wedi ei seilio ar ddata tymheredd gan y swyddfa dywydd gan gymharu'r data gydag astudiaethau eraill sydd wedi eu gwneud mewn cyfnodau o dywydd poeth yn y gorffennol.
Mae'r amcangyfrif yn cael ei wneud gan dybio bod y risg o farwolaeth yn cynyddu gyda phob gradd y mae'r tymheredd yn codi tu hwnt i drothwy penodol.
Llosgiadau
Yn y ganolfan llosgiadau a llawfeddygaeth blastig yn Abertawe mae mwy o bobl wedi dod trwy'r drysau gyda 53 o achosion wedi arwain at lawdriniaethau ymhen wythnos. Mae hynny yn ddwbl y nifer arferol.
Damweiniau yn yr ardd yw nifer o'r achosion ond hefyd llosgiadau gan yr haul. Mae nifer hefyd yn cael eu hanafu gan eu cŵn.
"Mae rhai pobl yn cofleidio eu ci ac fe allai'r ci gnoi oherwydd ei bod yn rhy boeth ac mae'r brathiadau yn medru bod yn reit ddifrifol. Felly mae angen i chi fod yn sensitif ynglŷn â sut mae gwres yn medru effeithio ar gŵn," meddai Tom Potokar, llawfeddyg yn y ganolfan.
Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr hefyd yn derbyn mwy o alwadau ym mis Gorffennaf ac mae penaethiaid iechyd yn dweud bod mwy o bwysau yn cael ei roi ar adrannau damweiniau ac argyfwng mewn ysbytai.