Yr haul yn effeithio ar ffordd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd gwaith yn cael ei wneud ar un o brif ffyrdd Dinbych-y-pysgod am fod y tywydd poeth wedi achosi i'r lon waethygu.
Yn ystod y 48 awr ddiwethaf mae darnau o wyneb y ffordd wedi dechrau chwalu ar yr A4218 ac mae Cyngor Sir Penfro yn dweud bod yn rhaid gweithredu.
Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Mawrth nesaf ac yn para ychydig ddiwrnodau ond ni fydd yn rhaid cau'r ffordd.
Dywedodd y cynghorydd Rob Lewis, sydd yn gyfrifol am gynllunio a phriffyrdd: "Mae'n flin 'da ni fod yn rhaid i ni wneud y gwaith yma ar un o ffyrdd prysuraf Dinbych-y-pysgod a hynny ar ddechrau'r gwyliau ysgol ond does dim dewis 'da ni.
"Fyddai hi ddim yn saff i adael y gwaith tan fis Medi. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y gwaith cyn gynted â phosib."
Ychwanegodd: "Does gen i ddim amheuaeth fod y tywydd poeth diweddar yn gyfrifol am ddirywiad wyneb y ffordd."
Straeon perthnasol
- 19 Gorffennaf 2013
- 18 Gorffennaf 2013