Abertawe i wynebu Malmö neu Hibernian yn Ewrop
- Cyhoeddwyd

Bydd Abertawe yn wynebu Malmö neu Hibernian yn nhrydedd rownd ragbrofol y Gynghrair Ewropa.
Llwyddodd Malmö o Sweden i guro Hibernian o 2-0 yng nghymal cyntaf eu gem nos Iau.
Bydd yr Elyrch yn wynebu'r enillwyr yn y Stadiwm Liberty nos Iau Awst y 1af, gyda'r ail gymal yn cael ei chwarae wythnos yn ddiweddarach.
Dyma fydd y tro cyntaf i Abertawe chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ers 1991.
Llwyddodd Abertawe i gyrraedd y Gynghrair Ewropa oherwydd eu buddugoliaeth yn y Cwpan Capital One y tymor diwethaf.
Os bydd tîm Michael Laudrup yn llwyddo i guro yn y drydedd rownd, yna bydd un gêm olaf yn sefyll rhyngddynt a'r brif gystadleuaeth.
Byddai'r gêm honno yn cael ei gynnal ym mis Awst.
Wedi plesio
Dywedodd Laudrup ei fod wedi plesio gyda'r newyddion.
"Roedd yn bwysig i mi ein bod ni yn osgoi siwrne hir neu'r siawns o chwarae mewn tywydd anodd."
"Yn ddaearyddol, mae Sweden neu'r Alban yn berffaith i ni."
"Rydyn ni hefyd yn deall arddull chwarae'r ddau dîm, sy'n beth positif i ni."
"Hoffwn ni wedi cael chwarae'r cymal cyntaf oddi cartref yn lle'r ail, ond gallwn ni ddim cael popeth."
Malmo sydd a'r fantais glir wedi cymal cyntaf y gêm nos Iau, ond mae Laudrup yn disgwyl cystadleuaeth galed yn yr ail gymal.
"Mae Malmo yn glwb enfawr yn Sweden sy'n falch o'i hanes llwyddiannus. Ond rydw i'n siŵr y bydd Hibernian yn cystadlu hyd at y diwedd."
Prestatyn
Olimpija Ljubljana o Slofenia neu MSK Zilina o Slofacia fydd gwrthwynebwyr Prestatyn os gallent gyrraedd y rownd nesaf.
Ond bydd tîm Chris Hughes angen perfformiad llawer gwell yn ail gymal eu gem yn yr ail rownd yn erbyn Rijeka, wedi iddyn nhw golli o 5-0 nos Iau.
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu Sligo Rovers neu Molde os gallent gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
Colli oedd eu hanes yn erbyn Legia Warsaw nos Fercher.
3-1 oedd y sgôr terfynol yn y Cae Ras.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013