Mesurau diogelwch i ras fynydd ym Mannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd
Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Brecon Beacons National Park Authority
Disgrifiad o’r llun,
Mae cwrs Ras Fan Dance yn mynd am 24km dros y Bannau

Mae trefnydd ras fynyddig ym Mannau Brycheiniog wedi amddiffyn diogelwch y digwyddiad, wythnos wedi marwolaeth 2 filwr yn yr ardal.

Mae Ras Fan Dance wedi ei seilio ar brawf milwrol yr SAS, gyda'r cwrs 24km yn mynd 886 o fetrau i fyny mynydd Pen y Fan ac yn ôl.

Yn ôl y trefnydd, y cyn-filwr Ken Jones, mae'r cwrs "mor agos â phosib" at gwrs milwrol.

Ond mae'n dweud bod y mesurau angenrheidiol mewn lle i sicrhau diogelwch i gystadleuwyr.

Trasiedi

Mae 350 o gystadleuwyr wedi eu cofrestru ar gyfer y ras ddydd Sadwrn, wythnos wedi marwolaeth 2 filwr oedd yn hyfforddi ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.

Un o'r milwyr oedd Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn.

Dëellir fod y ddau fu farw yn ceisio bod yn aelodau o Fyddin Diriogaethol yr SAS, drwy gwblhau gorymdaith wrth i'r tymheredd gyrraedd 30C mewn mannau.

Er bod elfennau o'r ras ddydd Sadwrn yn debyg i brofion y lluoedd arfog, mae Ken Jones yn dweud bod y digwyddiad yn ddiogel.

"Mor debyg â phosib"

Dywedodd bod cystadleuwyr yn cario llai o bwysau na milwyr yn hyfforddi.

"Mae'n 20 pwys yn llai, ac wrth gwrs byddai'r milwyr yn cario gwn 10 pwys hefyd, a dŵr a bwyd."

Cystadleuwyr profiadol sy'n ceisio cwblhau'r Fan Dance yn ôl Mr Jones, ac mae'n dweud eu bod wedi derbyn gwybodaeth o flaen llaw am ddiogelwch, hyfforddiant ac anghenion ffitrwydd.

Mae'r ras yn dechrau am 8 o'r gloch fore Sadwrn er mwyn i redwyr osgoi'r gwres gwaethaf, ac mae nifer o fannau ar hyd y cwrs i redwyr gasglu dŵr ychwanegol.

Mae'r trefnwyr yn dweud y bydd rhedwyr yn cael eu monitro yn ystod y ras hefyd.

"Byddwn yn gofyn cwestiynau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau," meddai Ken Jones.

"Byddwn yn gofyn am eu teuluoedd, gofyn am y cwrs a chyfeirnodau grid, a rhoi problemau mathemateg i brofi eu sgiliau meddwl."

Er y mesurau yma, mae Mr Jones yn dweud bod y ras "mor debyg â phosib" i brofion y lluoedd arfog, ac yn un o 'r rasys anoddaf ym Mhrydain.

Cefnogaeth

Mae'r ras wedi denu cefnogaeth gan un aelod o dîm achub yn yr ardal, ond pwysleisiodd Mark Jones, is-reolwr Tîm Achub Aberhonddu bod angen bod yn ddiogel.

"Rydw i'n cefnogi digwyddiadau fel hyn, yn lle bod pobl yn eistedd o flaen y teledu."

"Ond mae angen i gystadleuwyr wybod beth maen nhw'n ei wneud."

"Mae angen mynd a digon o ddŵr a bwyd, gorchuddio eu hunain rhag yr haul a chadw digon o hylif yn y corff."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol