Teimlo effeithiau'r tywydd poeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r tywydd poeth diweddar wedi achosi i nifer y galwadau i Wylwyr y Glannau gynyddu, problemau ar y ffyrdd a thanau gwyllt yng Nghymru.
Cyrhaeddodd y tymheredd 30.9C ym Mhorthmadog ddydd Gwener, ac er bod nifer yn mwynhau'r haul, mae 'na rybuddion am y peryglon.
Mae Gwylwyr y Glannau yn dweud eu bod wedi derbyn 456 o alwadau rhwng 15 Mehefin a 16 Gorffennaf yng Nghymru.
Roedd rhaid iddyn nhw ddelio gyda 2,859 o alwadau dros Brydain, cynnydd o 23% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Wrth i wyliau'r haf ddechrau i blant ysgol, mae pennaeth Gwylwyr y Glannau Peter Dymond wedi atgoffa pobl i gymryd gofal.
"Rydyn ni'n annog pobl i gael hwyl, ond i fod yn ddiogel ar y môr, yn enwedig yn y tywydd braf yma."
"Os ydych chi'n mynd i nofio, byddwch yn ymwybodol o'r amodau allan ar y môr, a rhowch wybod i rywun ar y lan sydd yn gallu cadw golwg arnoch chi."
Marwolaethau
Fe allai cymaint â 100 o bobl fod wedi marw yn sgil y tywydd poeth diweddar yng Nghymru yn ôl un astudiaeth.
Mae Ysgol Glendid a Meddygaeth Trofannol Llundain yn amcangyfrif bod rhwng 60 a 100 o bobl wedi marw rhwng 6-14 o Orffennaf.
Dywedodd Ben Armstrong o'r ganolfan mai pobl hŷn fyddai'r mwyafrif o'r rhain. Ychwanegodd hefyd efallai bod rhai o'r marwolaethau wedi digwydd, "ymhlith pobl a fyddai wedi marw ychydig wythnosau wedyn oni bai am y tywydd poeth."
Mae'r amcangyfrif yn cael ei wneud gan dybio bod y risg o farwolaeth yn cynyddu gyda phob gradd y mae'r tymheredd yn codi tu hwnt i drothwy penodol.
Ffyrdd
Dyma'r seithfed diwrnod yn olynol i'r tymheredd gyrraedd 30C, ac mae'r gwres wedi bod yn cael effaith fawr ar rai ffyrdd yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Mae 'na rybudd i fodurwyr fod yn ofalus, wrth i brif ffyrdd yn Ninbych y Pysgod ddirywio oherwydd y gwres.
Roedd rhaid i weithwyr yn Sir Gaerfyrddin atgyweirio'r ffyrdd mewn sawl man, wedi i'r tymheredd uchel achosi craciau yn y ffyrdd.
Yn y de, mae'r Gwasanaeth Dân wedi dweud bod y tân yn Wattsville oedd wedi llosgi coetiroedd yn ystod yr wythnos, wedi ail gynnau.
Mae'r tân yn lledu i lawr y mynydd, ac mae hofrennydd y gwasanaeth yn delio gyda'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- 19 Gorffennaf 2013
- 19 Gorffennaf 2013
- 18 Gorffennaf 2013