Cerddwr yn cael ei ladd wedi damwain
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i gerddwr gael ei daro gan gar a'i ladd.
Cafodd y dyn 24 oed o bentref Gilfach Goch yng nghymoedd De Cymru ei anfon i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y dyn a char coch Ford Focus ar yr A4119 ym Meisgyn am 1.30am bore Sadwrn.
Dywed yr heddlu nad ydynt ar hyn o bryd yn credu bod unrhyw gerbyd arall wedi bod ynghlwm gyda'r ddamwain.
Mae'r swyddogion yn apelio ar lygad dystion i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar y rhif 0800 555 111.