Laudrup: dim cysylltiad gyda swydd wag Barcelona
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi gwadu unrhyw gysylltiad gyda swydd wag rheolwr Barcelona.
Fe adawodd Tito Vilanova ei swydd ddydd Gwener er mwyn parhau gyda'i driniaeth ganser.
Er bod y bwcis yn darogan y gallai Laudrup gymryd yr awenau, mae o yn dweud nad ydy o yn gwybod unrhyw beth am y mater:
"Allai ddim gwneud sylw am hynny oherwydd rydych chi yn gofyn rhywbeth i fi nad ydw i yn gwybod dim yn ei gylch o," meddai.
Yn ei ddyddiau fel chwaraewyr pêl droed mi enillodd pum tlws gyda chlwb Barcelona. Ond dywedodd wythnos yma ei fod wedi synnu gyda'r newyddion fod Tito Vilanova yn gadael.
Disgwyl Bony
Wrth siarad ar ôl gem gyfeillgar yn erbyn Yeovil lle y curodd Abertawe o bum gol i ddim, dywedodd y rheolwr nad yw Wilfried Bony wedi dod i Abertawe eto am fod yna oedi ynglŷn â'i ganiatâd i weithio ym Mhrydain.
Mae Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr o Arfordir Ifori sydd wedi bod yn chwarae i glwb Vitesse Arnhem am £12m:
"Mae'r clwb dal yn gweithio ar y mater felly mae o dal yn yr Iseldiroedd. Mi wnaethon ni rhoi caniatâd iddo barhau i hyfforddi gyda Vitesse. Fel arall mi fyddai hi yn ormod o ddiwrnodau gydag o yn gwneud dim byd.
"Dyma'r math o bethau y mae'n rhaid i chi ddelio gyda phan rydych chi yn arwyddo chwaraewyr o du allan i'r Undeb Ewropeaidd. Ond dw i'n gobeithio y bydd o yma wythnos nesaf."
Straeon perthnasol
- 28 Mehefin 2013
- 28 Mai 2013
- 13 Mehefin 2013