Llofruddiaeth: cadw dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 45 oed wedi ymddangos o flaen llys ynadon Pontypridd ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn ei chartref ger Pen y Bont.
Cafodd corff Assia Newton oedd yn 44 oed ei darganfod yn ei thŷ ym Mhencoed yn hwyr ddydd Sul diwethaf.
Mae Kelvin Newton wedi ei gadw yn y ddalfa a disgwylir iddo ymddangos o flaen llys y goron Caerdydd ddydd Mawrth nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2013