Medal aur i Aled Davies a Josie Pearson
- Cyhoeddwyd

Mae Aled Davies wedi ennill y fedal aur ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd ac wedi torri'r record byd wrth daflu pwysau.
Fe lwyddodd y dyn 22 oed o Ben y Bont i daflu pwysau dros 14.71 metr yn Lyon.
Yn y gemau Paralympaidd yn Llundain y llynedd fe enillodd fedal aur wrth daflu'r ddisgen ac fe gafodd fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu pwysau.
Ef yw rhif 1 y byd a dydy o ddim wedi colli unrhyw gystadleuaeth y mae o wedi cystadlu ynddi eto y tymor yma.
Bydd yn cystadlu gyda'r ddisgen ddechrau'r wythnos lle mae'n gobeithio medru ennill medal arall:
"Roeddwn i yn gwybod wrth ddod mas yma'r hyn oeddwn i yn gallu gwneud a fy mod yn medru taflu yn bell iawn.
"Roedd e fetr yn fwy na'r hyn nes i daflu yn Llundain- sydd ddim yn ffôl gan ystyried mai dyma'r gamp dw i fwyaf gwan ynddo. Y ddisgen yw'r gamp dw i fwyaf balch ohono.
"Gyda'r ddisgen y ces i'r fedal aur y llynedd a'r pwysau yw fy ail gamp. Dw i'n gyffrous ac yn edrych ymlaen ac yn gobeithio gallai daflu yn bell eto a gorffen gyda medal arall."
Medal arall
Mi lwyddodd Josie Pearson hefyd i gipio'r aur gyda'r ddisgen ac i dorri ei record ei hun.
Roedd y ferch 27 oed o'r Gelli Gandryll wedi ennill medal aur yn y gemau Paralympaidd yn 2012 gan daflu 6.58 metr.
Trwy wneud hyn fe dorrodd record y byd.
Ond yn Lyon ddydd Sul taflodd y ddisgen yn bellach eto- 7.9 metr y tro yma.
Bu'n rhaid iddi ddisgwyl cyn cael cadarnhad ei bod wedi dod yn gyntaf am fod tîm yr Unol Daleithiau wedi apelio yn erbyn y canlyniad.
Roedden nhw'n cwestiynu ei thechneg taflu.
"O'n i yn gwybod bydden i yn gallu gwneud e o dan yr amgylchiadau iawn. Mae yna bwysau i berfformio pan rydych chi yn cystadlu yn y bencampwriaeth ac yn rhif 1 ond mae'n rhaid i chi roi hynny i un ochr," meddai.
Llwyddodd yr athletwr Kyron Duke hefyd i gael medal yn y gystadleuaeth gwaywffon. Daeth y Cymro yn drydydd sy'n golygu ei fod yn derbyn medal efydd.
Straeon perthnasol
- 2 Medi 2012
- 3 Medi 2012