Dim medal i Jade Jones
- Cyhoeddwyd

Mae Jade Jones wedi colli'r cyfle i gael medal wedi iddi gael ei threchu gan ei gwrthwynebydd yn y gamp Taekwondo ym Mhencampwriaeth y Byd.
Roedd hi wedi cyrraedd rowndiau'r wyth olaf ond Mayu Hamada o Japan oedd yn fuddugol.
Mi lwyddodd y ferch 20 oed i ymladd yn ôl gan wneud y sgôr yn gyfartal 2-2 ond fe gollodd wrth i'w gwrthwynebydd gipio pwynt olaf.
Yn yr un gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl mi lwyddodd y ferch o'r Fflint i ennill dwy fedal arian ac roedd hi'n ymddangos y byddai yn gwneud yn dda eleni eto wedi iddi drechu Sousan Hajipourgoli o Iran a Martina Zubcic o Groatia.
Roedd hi hefyd wedi llwyddo i guro Hamada yn y gemau Olympaidd y llynedd.
Dywedodd ei bod wedi ei siomi: "Dw i wedi fy niffeithio ac mae'r tîm yn teimlo un peth hefyd. Dim ond 20 oed ydw i ac mae gen i 10 mlynedd arall i fod yn bencampwr y byd sawl gwaith ond dw i jest wedi fy siomi fy mod i un pwynt i ffwrdd o gael medal."
Yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd fe enillodd y fedal aur.
Straeon perthnasol
- 10 Awst 2012
- 9 Awst 2012
- 3 Hydref 2011