Dyn yn marw ar ôl disgyn o adeilad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc wedi marw ar ôl disgyn o fflat ym Merthyr.
Cafodd yr heddlu ei galw i gwrt Saint Illtyd brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd y dyn 19 oed wedi cael anafiadau difrifol i'w ben a bu farw.
Dyw'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.