Arestio dyn wedi damwain angeuol

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain rhwng dau gerbyd ar yr A40 nos Sadwrn a dyn arall wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd trwy yrru yn beryglus.

Roedd y ddau gar sef Ford KA llwyd a VW Golf llwyd yn teithio i'r un cyfeiriad rhwng pentref Rhaglan yn Sir Fynwy a Y Fenni am 9.30pm pan fu gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y Ford KA oedd yn 78 oed ei ladd yn y ddamwain ac mae menyw arall oedd yn yr un cerbyd wedi ei hanfon i'r ysbyty.

Mae hi mewn cyflwr sefydlog.

Arestio

Mae gyrrwr y car VW Golf wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd trwy yrru yn beryglus ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn anafiadau difrifol.

Roedd yr A40 wedi cau am gyfnod o ddeg awr.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw yn enwedig gyrrwr fan Ford Transit neu gerbyd tebyg. Credir bod y gyrrwr hwnnw yn teithio i'r un cyfeiriad pan ddigwyddodd y ddamwain.

Y rhif i gysylltu gyda'r heddlu yw 101 gan roi'r dyfynnod 608 20/7/13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol