Damwain A470: Dau yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi mynd i'r ysbyty yn dilyn damwain rhwng sawl cerbyd ar yr A470 ym Mannau Brycheiniog.
Bu gwrthdrawiad rhwng dau feic modur, un car a fan wersylla ger y Storey Arms brynhawn Sul.
Cafodd un person ei hedfan mewn hofrennydd i ysbyty yn Abertawe tra yr aeth yr un arall gydag ambiwlans i ysbyty ym Merthyr.
Credir bod un o'r bobl a gafodd ei anafu wedi torri coes. Cleisiau a briwiau oedd gan yr unigolyn arall.