Prosiect amaethyddol £35m yn Aber

  • Cyhoeddwyd
Campws GogerddanFfynhonnell y llun, Aberystwyth University
Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r cynllun yn trawsnewid campws Gogerddan

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu buddsoddi £35m i ddatblygu Campws Ymchwil Arloesedd newydd yng Ngogerddan.

Bydd y campws yn canolbwyntio ar wyddoniaeth a thechnoleg amaethyddol.

Mae'r brifysgol wedi derbyn grant o £14.5m gan Gyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Biotechnoleg a Biolegol ar gyfer y safle.

Bydd £2.5m o'r arian hwnnw yn mynd tuag at waith ymchwil i wella amaethyddiaeth yr ucheldir.

Mae Prifysgol Aberystwyth mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a'r sector preifat i gael gweddill yr arian, a bydd y brifysgol ei hun hefyd yn buddsoddi yn y campws.

Bwyd

Mae'r arian yn rhan o gynllun Llywodraeth San Steffan i hybu diogelwch bwyd ar gyfer y dyfodol.

Y brifysgol sydd wedi derbyn y gyfran fwyaf o'r arian oedd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts, ar gyfer strategaeth Amaeth-Dechnoleg.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae gan Brydain y potensial i arwain y byd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg amaethyddol, ac eto mae twf ein cynhyrchiant wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

"Bydd y safleoedd blaengar yma yn gymorth i wyrdroi'r duedd honno drwy gael ein hymchwilwyr a'n busnesau i weithio gyda'i gilydd er mwyn masnacheiddio eu syniadau."

Pleidlais o hyder

Mae Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi'i leoli yng Ngogerddan ac ers 2008 mae'n rhan o'r brifysgol. Ers 2012 mae Canolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol wedi agor ar y safle, sydd yn cynnwys tŷ gwydr ymchwil mwyaf datblygedig Prydain.

Dywed y brifysgol bod y cyhoeddiad yn golygu y caiff swyddi eu cadw ac y bydd modd efallai cynnig mwy yn y dyfodol.

Yn ôl yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:

"Mae'r buddsoddiad hwn yn bleidlais o hyder yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn IBERS, a bydd yn ein galluogi i adeiladu ar dreftadaeth y safle hwn, ac i hybu ymhellach ein henw da fel arweinwyr byd mewn ymchwil amaethyddol drosiadol.

"Amaethyddiaeth yw conglfaen rhai o'r prif heriau sy'n wynebu cymdeithas yn yr 21ain ganrif, a'n gweledigaeth ni yw trosi'r heriau mawr yma - diogelwch bwyd, dŵr ac ynni - yn gyfleoedd cynaliadwy a ffyniannus i gymdeithas, gan gydnabod y bydd gan arloesi mewn amaethyddiaeth rôl hanfodol wrth feithrin bio-economi sy'n seiliedig ar wybodaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol