Cig ceffyl: Pryder am oedi cyn erlyn

  • Cyhoeddwyd
Briwgig cig eidionFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd y sgandal cig ceffyl ym mis Chwefror

Mae arbenigwr ar amaethyddiaeth wedi codi pryderon nad oes unrhyw un wedi cael ei erlyn eto wedi'r sgandal cig ceffyl.

Roedd Llywydd undeb yr NFU, Peter Kendall, yn siarad cyn trafodaeth ar y pwnc yn y Sioe Frenhinol Amaethyddol yn Llanelwedd, Powys.

Ond mae Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru Alun Davies yn dweud bod yn rhaid rhoi amser i gwblhau'r holl ymchwiliadau.

Bydd y gwersi a ddysgwyd, a sut effeithiodd y sgandal ar y diwydiant, yn cael ei drafod yn y sioe prynhawn dydd Llun.

Mae disgwyl dros 200,000 o ymwelwyr yn y sioe dros y pedwar diwrnod nesa'.

Er bod disgwyl i'r tywydd poeth barhau ddydd Llun, mae disgwyl stormydd rhwng nos Lun a dydd Mercher.

Trafodaeth

Bydd Alun Davies, ynghyd ag arweinwyr ac arbenigwyr amaeth, yn rhan o'r drafodaeth a gafodd ei threfnu gan Brifysgol Aberystwyth.

Ar draws Ewrop, cafodd olion cig ceffyl eu darganfod mewn cynnyrch cig eidion wedi'i brosesu ym mis Chwefror, gan godi cwestiynau am y gadwyn fwyd.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ymchwiliad.

Wrth siarad cyn y drafodaeth ddydd Llun, dywedodd Mr Kendall ei fod yn "pryderu'n arw" nad oedd unrhyw un wedi'i erlyn eto.

Dywedodd ei fod wedi codi pryderon yn un o bwyllgorau Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn San Steffan.

'Anhapus'

"Mae ffermwyr yn wynebu rheolau ac archwiliadau anhygoel - rydym yn gorfod mynd trwy gymaint," ychwanegodd.

"Mae ein henw da yn y fantol a phan mae rhywun yn cymysgu gwahanol fathau o gig yn fwriadol roedden ni'n disgwyl y bydden nhw'n cael eu herlyn.

"Felly 'dan ni ddim yn hapus ond mae'n anodd dweud ble bydd y bobl 'ma yn cael eu herlyn, ble mae'r dystiolaeth yn cael ei chasglu."

Ond dywedodd y gweinidog Mr Davies fod yn rhaid cwblhau'r ymchwiliadau.

"'Dwi ddim yn credu ei bod yn deg rhoi pwysau ar yr awdurdod sy'n ymchwilio - yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn yr achos yma," meddai.

"Dyw Peter Kendall ddim yn gwybod, 'dwi ddim yn gwybod beth mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei wneud, pa dystiolaeth maen nhw'n casglu a pha brosesau mae'n rhaid iddyn nhw eu dilyn.

"Rwy'n credu y dylai pobl gael eu herlyn os ydynt wedi troseddu yn y DU neu yn unrhyw le yn Ewrop."

Dywedodd ASau ar y pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yr wythnos ddiwetha' eu bod wedi eu "siomi" bod yr ymchwiliad i'r sgandal cig ceffyl mor araf, chwe mis wedi'r achosion cynta' o gamlabelu cig ddod i'r amlwg.

Ond dywedodd Defra fod yr heddlu'n dal i ymchwilio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol