Cwmni meddygol yn symud o Loegr i dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ymchwil i gelloedd bonynFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y cwmni yn symud o Guilford i Gymru

Fe fydd cwmni meddygol yn symud i dde Cymru ar ôl sicrhau cymhorthdal o £33.2 miliwn er mwyn parhau â gwaith ymchwil i gelloedd bonyn.

Bydd ReNeuron, sydd wedi derbyn cymhorthdal o bron £14 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn symud o Guilford.

Mae'r cwmni yn ceisio datblygu triniaeth i gleifion sydd wedi dioddef strôc.

Ar y dechrau, bydd y cwmni yn cyflogi 25 o weithwyr, ond mae posibilrwydd y gallai hynny gynyddu i hyd at 70.

Does yna ddim penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn ag union leoliad y cwmni yng Nghymru ond mae disgwyl iddynt symud o fewn dwy flynedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cwmnïau sy'n ymwneud â gwaith ymchwil a thechnoleg feddygol yn cyflogi 15,000 o bobl yng Nghymru, ac yn cyfrannu £1.3 biliwn i'r economi.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Cymru, ei bod wrth ei bodd â chynlluniau ReNeuron.

"ReNeuron yw'r cwmni cyntaf yn y byd i gael yr hawl i gynnal treialon clinigol ar y math yma o dechnoleg gyda chelloedd bonyn er mwyn trin cleifion strôc."